Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards Part 7

You’re reading novel Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards Part 7 online at LightNovelFree.com. Please use the follow button to get notification about the latest chapter next time when you visit LightNovelFree.com. Use F11 button to read novel in full-screen(PC only). Drop by anytime you want to read free – fast – latest novel. It’s great if you could leave a comment, share your opinion about the new chapters, new novel with others on the internet. We’ll do our best to bring you the finest, latest novel everyday. Enjoy!

Gwn beunydd herwydd herw amcan, ddilyd Ddelw berw Caswennan: Golwg, deddf amlwg diddan, Gwelw, freich fras brenhinblas Bran.

Gyrrais a llidiais farch bronn llydan, hoyw, Er hoen blodau sirian: Gyrrawd ofal yr Alban, Garrhir braisc ucheldir Bran.

Lluniais wawd, ddefawd ddifan, traul ofer, Nid trwy lafur bychan: Lliw eiry cynnar pen Aran, Lloer bryd, lwys fryd o lys Fran.

Mireinwawr Drefawr dra fo brad im dwyn, Gwarando fy nghwyn, frwyn freuddwydiad, Mau glwyf a mowrnwyf murniad, huno heb Gwrtheb teg atteb tuac attad Mi dy fardd digardd, dygn gystuddiad Rhun, Gyfun laes wannllun ith lys winllad.

Mynnu ddwyf draethu heb druthiad na gwyd Wrthyd haul gymmryd, gamre wasdad.



Mynnud hoyw fun loyw oleuad gwledydd, Glodrydd, gain gynnydd, nid gan gennad, Maint anhun haelfun hwylfad, em cyfoeth Ddoeth, fain oleugoeth, fy nau lygad, Medron boen goroen nid digarad was, Heb ras, mau drachas om edrychiad.

Magwyr murwydr hydr, hydreiddiad lwysle, Mygrwedd haul fore eurne arnad.

Megis llwyr gludais llawer gwlad, yn ddwys, Dy glod lwys, cynnwys pob datceiniad, Mal hy oedd ymmy, am wyl gariad graen, Myfanwy hoen blaen eiry gaen gawad.

Meddwl serchawl, hawl, lliw ton hwyliad welw, Arddelw dygynnelw heb dy gynheiliad.

Modd trist im gwnaeth Crist croesdog neirthiad llwyr, Wanwyr oi synwyr drwy lud senniad.

Murn boen a mi om anynad hawl, Serchawl eneidiawl un fynediad.

Mul i bwriais, trais tros ddirnad Duw gwyn, Tremyn ar ddillyn porphor ddillad.

Megis ti ferch rhi, rhoddiad gymmyrredd, Mwyfwy anrhydedd, wledd wledychiad.

Marw na byw, nwyf glyw gloyw luniad cyngaws, Hoednaws nid anaws im am danad.

Meddwl ofeiliaint braint braidd im gad llesmair, I gael yr eilgair wrth offeiriad.

Masw imi brofi, brif draethiad a wnawn, Lle nim rhoddi iawn, ne gwawn, na gwad.

Mesur cawdd anawdd i ynad eglur, Adrawdd fy nolur ddwysgur ddysgiad.

Modd nad gwiw, lliw lleuad rhianedd, Nam gwedd hud garedd, nam hoed girad.

Meinir nith borthir, gwn borthiad poenau, Yn nenn hoen blodau blawd yspyddad.

Medraist, aur delaist adeilad gwawd, Im nychdawd ddifrawd ddyfrys golliad.

Meddylia oth ra ath rad, ith brydydd Talu y carydd Duw dofydd dad.

Prydydd wyf, tros glwyf, trais glud, poen gwaneg, Iaith laesdeg ith lwysdud: Fynawg riain fain funud: Fun arlludd hun eirllwydd hud.

Im neud glud, dy hud hydr, riain wanlleddf, O'r wenllys ger Dinbrain: Aml yw gwawd gynnefawd gain, Om araith ith dwf mirain.

III. AWDL

_I Lewelyn fab Iorwerth_. _Dafydd Benfras ai cant_.

Gwr a wnaeth llewych o'r gorllewin, Haul a lloer addoer, addef iessin, Am gwnel, radd uchel, rwyf cyfychwin, Cyflawn awen, awydd _Fyrddin_, I ganu moliant mal _Aneurin_ gynt, Dydd i cant _Ododin_.

I foli gwyndawd _Gwyndyd_ werin, _Gwynedd_ bendefig, ffynnedig ffin, Gwanas deyrnas, deg cywrennin, Gwreidd, teyrneidd, taer ymrwydrin, Gwrawl ei fflamdo am fro Freiddin.

Er pan orau Duw dyn gyssefin, Ni wnaeth ei gystal traws arial trin.

Gorug _Llewelyn_, orllin teyrnedd, Ar y brenhinedd braw a gorddin Pan fu yn ymbrofi a brenin _Lloegyr_, Yn llygru swydd _Erbin_.

Oedd breisc, weisc ei fyddin, Oedd brwysc rwysc rhag y G.o.dorin, Oedd balch gwalch, golchiad ei lan, Oedd beilch gweilch, gweled ei werin, Oedd clywed cleddyfau finfin, Oedd clybod clwyf ymhob elin, Oedd briw rhiw yn nhrabludd odrin, Oedd braw saw _Saeson_ clawdd y _Cnwecin_, Oedd bwlch llafn yn llaw gynnefin, Oedd gwaedlyd pennau, gwedi gwaedlin rhwy, Yn rhedeg am ddeulin.

_Llewelyn_, ein llyw cyffredin, Llywiawdr berth hyd _Borth Ysgewin_, Ni ryfu gystal _Gwstennin_ ag ef, I gyfair pob gorllin.

Mi im byw be byddwn ddewin, Ym marddair, ym mawrddawn gyssefin, Adrawdd ei ddaed aerdrin ni allwn, Ni allai _Daliesin_.

Cyn adaw y byd gyd gyfrin, Gan hoedyl hir ar dir daierin, Cyn dyfnfedd escyrnwedd yscrin, Cyn daear dyfnlas, arlessin, Gwr a wnaeth o'r dwfr y gwin, Gan fodd Duw a diwedd gwirin, Nog a wnaethpwyd trais anwyd trin, Ymhrefent ymhrysur orllin: Ni warthaer hael am werthefin nos, A nawdd saint boed cyfrin.

IV. CANU

_I Lewelyn fab Iorwerth_. _Einiawn fab Gwgawn ai cant_.

Cyfarchaf o'm naf, am nefawl Arglwydd, Crist Celi culwydd, cwl i ddidawl, Celfydd leferydd o le gweddawl, Celfyddydau mau ni fo marwawl: I brofi pob peth o bregeth _Bawl_, I foli fy rhi, rhwyf angerddawl, Rhyfel ddiochel, ddiochwyth hawl, _Llewelyn_ heilyn, hwylfeirdd waddawl, Llawenydd i ddydd, i ddeddf ai mawl, Llewychedig llafn yn llaw reddfawl, Yn lladd, dy wrthladd iwrth lys _Rheidiawl_, Gweleis a gerais ni gar mantawl, Gwelygordd _Lleission_ llyssoedd gweddawl, Lluoedd arwoloedd ar weilw didawl, Llawrwyr am eryr yn ymeiriawl, _Llewelyn_ lleyn, llyw ardderchawl, Lluriglas, gwanas, gwanau a hawl, Gwenwyn yn amwyn am dir breiniawl _Powys_, Ae diffiwys, ae glwys a glyw ei hawl, Ef dynniad ynghad; _Eingl_ frad freuawl, Ef dandde rhuddle _Rhuddlan_ is gwawl, Gweleis _Lewelyn_, eurddyn urddawl, Yn urddas dreigwas dragywyddawl, Eil gweleis i dreis dros ganol _Dyfrdwy_, Yn y trei tramwy llanw rhwy, rhwydd hawl Gweleis aer am gaer oedd engiriawl, Talu pwyth dydd gwyth, canyseawl, Ni ryweleis neb na bo canmawl, O'r ddau y gorau a fo gwrawl.

Mi ath arwyre, ath arwyrein myfyr, Eryr yn rhywyr, prifwyr _Prydein_.

Prydfawr _Lewelyn_ pryd dyn dadiein, Prydus, diescus, escar ddilein.

Escynnu ar llu ar lle _Ewein_, Ysgymmod gorfod, gorfalch am brein, Ysgymmyn gwerlyn, gwerlid gofiein, Ysgymydd clodrydd, _Kulwydd_ a _Llwyfein_, Lluddedig edmyg, meirch mawrthig mein; A lluoedd yngwiscoedd yn ymoscrein, Ar llinyn ar dynn ar du celein, A llinon rhag Bron rhag bro _Eurgein_, Tyrfa _Clawdd Offa_ clod yn hoffiein, A thorfoedd _Gwynedd_ a gwyr _Llundein_, Cyfran tonn a glan, glafdir gwylein, Golud mowr ystrud, ysgryd _Norddmein_, _Llewelyn_ terwyn, torf anghyngein, Biau'r gwyr gorau, bachau bychein, Priodawr mwynglawr _Mon_ glod yscein, Areul golud pentud, _Pentir Gwychein_.

Gwawr _Dehau_ gorau, gwyr yn dyrein, Gwenwyn a gwanar y ddau gar gein, Ae lyw cyferyw, cyfwyrein a thrin, A thrychieid gwerin _Caer Fyrddin_ fein, Ni sefis na thwr, na bwr, bu crein, Nag argoed, na choed, na chadlys drein, A rhag pyrth bu syrth _Saeson_ ynghrein.

Oedd trist maer, oedd claer cleddyf heb wein, A chan llu pannu, pen ar ddigrein, A chan llaw lludwaw _Llan Huadein_, _Cil Geran_ achlan, a chlod goelfein, A chlwyr ar dyhedd, mawredd mirein, Yn _Aber Teifi_ tew oedd frein uch benn, Yn yd oedd perchen parchus gyfrein.

Oedd tew peleidr creu, creuynt gigfrein, Calanedd gorwedd gorddyfna.s.sein, _Llewelyn_ boed hyn boed hwy ddichwein, No _Llywarch_ hybarch, hybar gigwein.

Nid celadwy dreig, dragon gyngein, Nid calan cyman gwr y gymein, Hydwf yngnif ai lif o lein, Hyd ydd el yn rhyfel hyd yn _Rhufein_, Ai raglod ai rod o riw Feddgein, Hyd i dwyre haul hyd y dwyrein.

Ys imi rwydd Arglwydd, argleidrad, Argledr tir, a gwir a gwenwlad, Ys imi or cyngor cyngwasdad, Cywesti peri peleidrad, Ys imi ri ryfel ddiffreiddiad, Diffryd gwyr, eryr ardwyad, Ys imi rwydd Arglwydd, erglywiad A glywir o'r tir gar _Tanad_, Ys imi glew, a llew a lleiddiad Yn rhyfel a rhon orddyfniad, Ys imi wr a wared i rad, I reidus, galarus, geilwad.

Ys imi ner yn arwyn ddillad, Yn arwein ysgin ysgarlad, Ys imi _Nudd_, hael fudd, Hueil feiddiad, Ar Lloegr ryllygrwys heb wad.

Ys imi _Rydderch_, roddiad aur melyn, Molitor ymhob gwlad.

A mawrdud olud olygad, A _Mordaf_ am alaf eiliad, Ys imi _Run_ gatcun gytcam rad, Cydgaffael, a hael, a hwyliad Ef imi y meddwl difrad, Mi iddaw yn llaw yn llygad, Ni henyw o afryw afrad, Mi hanwy o henwyr ei dad, Llachar far, aerfar, erfynniad, Llachar fron o frydau _Gwriad_.

Lluchieint gweilch am walch gynnifiad, Fal lluchynt estrawn wynt _Ystrad_.

Hunydd nen perchen parchus fad, Parch arfawr, _Arfon_ angoriad.

_Llewelyn_ dreis, erlyn drwssiad, Dros dehau angau oth angad, Angor mor y mawr gymynad, Angawr llawr llurig Duw am danad.

Rhy chyngein _Prydein_ yn ddibryder, I Briodawr llawr yn llawn nifer.

_Llewelyn_ gelyn yn i galwer I gelwir am dir am dud tymer.

Llawenydd lluoedd llew ymhryder, Llywiawdr ymmerawdr mor a lleufer, I ddylif cynnif cynhebyccer I ddylann am lann, am leissiaid ffer.

Terfysc tonn ddilysc ddyleinw aber: Dylad anwasdad ni osteccer.

Terwynt twrf rhywynt yn rhyw amser, A rhialluoedd lluoedd llawer.

Torfoedd ynghyoedd ynghyflawnder Tariannau golau mal i gweler: Ry folant anant, anaw cymer, Ry molir i wir i orober, I wryd yn rhyd yn rheid nifer, I orofn gwraf yn ydd eler, I orfod gorfod glod a glywer, I wyr am eryr ni amharer, I warae orau pan waraer, I wayw a orau yn ddau hanner, Dinidir yn nydd brwydr yn yd brofer, Dinoding perging, pargoch hydrfer, Dinas, dreig urddas, eurddawn haelder Dinag o fynag pan ofynner, Dyn yw _Llewelyn_ llywiawdr tyner, Doeth coeth cywrennin, gwin a gwener, A'r gwr ai rhoddes ni ran o'r pader, Ai rhoddo ef gwenfro gwynfryn uch ser.

V. ARWYRAIN

_Owain Gwynedd_. _Gwalchmai ai cant_.

Arddwyreaf hael o hil _Rodri_, Ardwyad gorwlad, gwerlin teithi, Teithiawg _Prydain_, twyth arfdwyth _Owain_, Teyrnain ni grain, ni grawn rei.

Teir lleng i daethant, liant lestri, Teir praff prif lynges wy bres brofi, Un o'r _Iwerddon_, arall arfogion Or _Llychlynigion_, llwrw hirion lli.

Ar drydedd dros for o _Norddmandi_, Ar drafferth anferth, anfad iddi.

A dreig _Mon_ mor ddrud i eissillyd yn aer, A bu terfysc taer i haer holi, A rhagddaw rhewys dwys dyfysci, A rhewin a thrin a thranc Cymri, A'r gad gad greudde, a'r gryd gryd graendde, Ac am dal _Moelfre_ mil fannieri, A'r ladd ladd lachar, ar bar beri, A ffwyr ffwyr ffyrfgawdd ar fawdd foddi, A _Menai_ heb drai o drallanw gwaedryar, A lliw gwyar gwyr yn heli: A llurygawr glas, a gloes trychni, A thrychion yn nhud rhag rheiddrudd ri, A dygyfor _Lloegr_, a dygyfranc a hi, Ag ei dygyfwrw yn astrusi, A dygyfod clod cleddyf difri, Yn saith ugain iaith wy faith foli.

VI. AWDL

_I Nest ferch Hywel_. _Einiawn fab Gwalchmai ai cant_.

Amser Mai maith ddydd, neud rhydd rhoddi, Neud coed nad ceithiw, ceinlliw celli, Neud llafar adar, neu gwar gweilgi, Neud gwaeddgreg gwaneg, gwynt yn edwi, Neud arfeu doniau, G.o.ddau gwedi, Neud argel dawel nid meu dewi, Endeweis i wenyg o Wynnofi dir, I am derfyn mawr meibion _Beli_, Oedd hydreidd wychr llyr yn llenwi, Oedd hydr am ddylan gwynfan genddi, Hyll nid oedd ei deddf hi hwyreddf holi, Hallt oedd i dagrau, digrawn heli, Ar helw bun araf uch bannieri ton, Tynhegl a gerddais i gorddwfr _Teifi_, Ceintum gerdd i _Nest_ cyn noi threngi, Cant cant i moliant mal _Elifri_, Canaf gan feddwl awrddwl erddi, Caniad i marwnad, mawr drueni!

Canwyll _Cadfan_ lan o lenn bali.

Canneid i synnieid gar _Dysynni_, Gwan, wargan, wyrygall, ddeall ddogni, Gwreig nid oedd un frad gariad genthi, Gweryd rhudd ai cudd gwedi tewi, Gwael neuedd maenwedd mynwent iddi, Golo _Nest_ goleu ddireidi.

Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards Part 7

You're reading novel Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards Part 7 online at LightNovelFree.com. You can use the follow function to bookmark your favorite novel ( Only for registered users ). If you find any errors ( broken links, can't load photos, etc.. ), Please let us know so we can fix it as soon as possible. And when you start a conversation or debate about a certain topic with other people, please do not offend them just because you don't like their opinions.


Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards Part 7 summary

You're reading Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards Part 7. This novel has been translated by Updating. Author: Evan Evans already has 834 views.

It's great if you read and follow any novel on our website. We promise you that we'll bring you the latest, hottest novel everyday and FREE.

LightNovelFree.com is a most smartest website for reading novel online, it can automatic resize images to fit your pc screen, even on your mobile. Experience now by using your smartphone and access to LightNovelFree.com

RECENTLY UPDATED NOVEL