Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards Part 8

You’re reading novel Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards Part 8 online at LightNovelFree.com. Please use the follow button to get notification about the latest chapter next time when you visit LightNovelFree.com. Use F11 button to read novel in full-screen(PC only). Drop by anytime you want to read free – fast – latest novel. It’s great if you could leave a comment, share your opinion about the new chapters, new novel with others on the internet. We’ll do our best to bring you the finest, latest novel everyday. Enjoy!

Golwg gwalch dwythfalch o brif deithi, Gwenned gwawn ai dawn oi daioni, _Gwynedd_ anrhydedd, oedd rhaid wrthi, Nid oedd ffawd rhy gnawd rhin y genthi, Gnawd oedd dal eur mal er i moli, Ni ryfu dognach er i dogni poen, Penyd a fo mwy no'r meu hebddi, Neum gorau angau anghyfnerthi, Nid ymglyw dyn byw o'r byd fal mi, Ni chyfeirch angen iawlwen ioli, Er neb rhy barther i rhyborthi, _Nest_ yn ei haddawd, wenwawd weini, Ydd wyf pryderus fal pryderi.

Pryderwawd ceudawd, cyfnerthi ni wnn, Nid parabl yw hwn ni fo peri.

Llen argel issel y sy'm poeni, Lludd _Gwen_ lliw arien ar _Eryri_.

Archaf im Arglwydd culwydd celi, Nid ef a archaf arch egregi, Arch, ydd wyf un arch yn i erchi, Am archfein riein, reid y meini, Trwy ddiwyd eiriawl deddfawl _Dewi_.

A deg cymmeint seint senedd _Frefi_, Am fun a undydd i hammodi, A'r gystlwn pryffwn y prophwydi, Ar gyfoeth Duw doeth i detholi, Ar anghyweir _Meir_ a'r merthyri, Ag yn i G.o.ddau gweddi a ddodaf, Am dodeis nwyf im addoedi.



Ni bu ddyn mor gu gennyf a hi Ni bo poen oddef, _Pedr_ wy noddi, Ni bydd da gan Dduw i diddoli, Ni bo diddawl _Nest_, nef boed eiddi.

VII. AWDL

_I Lewelyn fab Iorwerth_. _Llywarch Brydydd y Moch ai cant_.

Crist Greawdr, llywiawdr llu daear a nef Am noddwy rhag afar, Crist celi, bwyf celfydd a gwar, Cyn diwedd gyfyngwedd gyfar.

Crist fab Duw am rhydd arllafar, I foli fy rhwyf rhwysg o ddyar, Crist fab Mair am pair o'r pedwar defnydd, Dofn awen ddiarchar.

_Llewelyn_ llyw _Prydain_ ai phar, Llew a glew a glyw gyfarwar, _Fab Iorwerth_ ein cannerth an car, _Fab Owain_ ffrawddiein, ffrwyth cynnar, Ef dyfu dreig llu yn llasar dillat, Yn ddillyn cyfarpar, Yn erfid, yn arfod abar, Yn arfau bu cenau cynnar, Yn ddengmlwydd hylwydd hylafar, Yn ddidranc ei gyfranc ai gar, Yn _Aber Conwy_, cyn daffar fy llyw, _Llewelyn_ athrugar, A _Dafydd_, defawd _Ul Caissar_, Difai ddraig, ddragon adwyar, Difwlch udd difalch i esgar, Difwng blwng blaen ufel trwy far, Dybryd in feirdd byd bod daear arnaw, Ac arnam i alar.

Ef yn lly w cyn llid gyfysgar, Ysglyfion ysglyfiynt llwrw bar, Oedd rynn rudd ebyr or gwyr gwar, Oedd ran feirw fwyaf o'r drydar, Oedd amliw tonnau, twnn amhar eu neid, Neud oeddynt dilafar.

Ton heli ehelaeth i bar, Ton arall guall, goch gwyar.

_Porth Aethwy_ pan aetham ni ar feirch mordwy, Uch mowrdwrf tonniar, Oedd ongyr, oedd engir ei bar, Oedd angudd G.o.drudd gwaedryar, Oedd enghyrth ein hynt, oedd angar, Oedd ing, oedd angau anghymar, Oedd ammau ir byd bod abar o honam, O henaint lleithiar.

Mawr gadau, anghau anghlaear, Meirw sengi, mal seri sathar, Cyn plygu _Rodri_, rwydd esgar, ym _Mon_ Mynwennoedd bu braenar, Pan orfu pen llu llachar, _Llewelyn_ llyw _Alun_ athafar, Myrdd bu lladd, llith brein gorddyar, O'r milwyr, a mil yngharchar.

_Llewelyn_ cyd lladdwy trwy far, Cyd llosgwy, nid llesg ufeliar, Llary deyrn, uch cyrn cyfarwar Llwrw cydfod ir clod is claiar, Ry llofies rwyf treis tros fanniar i feirdd, Oedd fawrllwyth ir ddaear, Gwisci aur ag ariant nis oar.

Gwascwynfeirch gosseirch, gosathar, Ysginfawr gorfawr, gorwymp par, Yscarlad lliw ffleimiad, fflamiar, Meirch Mawrthig, ffrwythig, ffraeth, anwar, Ffrawddus, a phreiddiau ewiar.

Mwth i rhydd, arwydd yngwascar, Mal _Arthur_ cein fodur cibddar, Cann a chann; a chein wyllt a gwar, Cant a chant a chynt nog adar

_Adar_ weinidawg, caeawg Cynran drud, Dreig _Prydein_ pedryddan, Addod Lloegr, lluossawg am bann, Addaf hir in herwydd calan, Adwedd teyrnedd tir nis rhan, A dan ser ys sef i amcan, Adnes i franhes i frein bann, Dychre dychrein gwyr yngrheulan, Gwrdd i gwnaeth uch Deudraeth _Dryfan_, Gwr hydwf, gwrhydri _Ogyrfan_ Dygwydd gwyr heb lafar heb lan, Dygoch llawr dwygad fawr faran, Un am fro _Alun_, elfydd can, A _Ffrainc_ yn ffrawddus mal _Camlan_; Ar eil yn _Arfon_ ar forfan, Yn undydd an un Duw in a ran, A dwy dreig ffeleig, ffaw gymman Mal deulew ein dylocha.s.san, Ag un traws gatcun, treis faran, Fal gwr yn gorfod ymhobman, _Llewelyn_ llafn-eur anghyfan, Lloegr ddiwreidd, llu rhuddfleidd _Rhuddlan_, Llu rhagddaw a llaw ar llumman, Llwybr yn wybr yn ebrwydd allan, Llwrw ddawn _Cadwallawn fab Cadfan_.

I mae am _Brydain_ yn gyfan, Llary ni ddel ei law ettaw attan, Llyried tra myned tramor dylan, Rhag llaith anolaith anolo llan, A llafnawr lledrudd uch grudd a gran, Ninnau Feirdd _Prydein_, prydus eirian berth, Gwyr a byrth fy rhwyf ymhob calan, Er digabl barabl gan bawb oi fan, Digrifwch elwch elyf egwan, Oi ariant gormant gorym ni drudran, O'i alaf ai aur ai ariant can.

Gan i ddwyn dychryn a ddechreuo bleid, Uch blaenwel yn oed llo, Gnaws achaws yn ych cyn adfo, Gnawd i ladd ni lwydd i abo.

_Caer Lleon_ llyw _Mon_ mwyn _Pabo_ ath dug, Ef ath dwg ynghodo, _Llewelyn_ ef llosges dy fro, Llas dy wyr dra llyr, dra llwyfo, Llwyr dug y _Wyddgrug_, nid ffug ffo, _Lloegrwys i_ llugfryd i synnio, Llewdir teyrn lluddiwyd yn agro, Llas i glas, i glwystei neud glo, Llys _Elsmer_, bu ffer, bu ffwyrngno, Llwyr llosged i thudwed ai tho, Llwrw gwelwch neud heddwch heno Gan fy rhwyf, nid rhyfedd cyd bo, Hyd i del i dorf ar dyno a bryn, Udd breiniawg bieufo, Llew ai dug, ai dwg pan fynno, Ir _Trallwng_ trillu anwosgo, Llys efnys, afneued tra fo.

Lles i fyrdd o feirdd ai cyrcho.

Addug y _Wyddgrug_ ai dycco, Gwyliwch gwylyddwr, pwy ai lluddio, Llwrw _Fochnant_ edrywant ar dro, Llwytcwn llwyth llithiwyd am honno, Lletcynt _Argoedwys_, gwys greudo, Llys a dwy neud einym ni heno.

Edryched _Powys_ pwy fo, Brenin breisg werin, brwysg agdo, Ai gwellygio pwyll rhydwyllo: Ai gwell _Ffranc_ no ffrawddus _Gymro_.

Llyw y sy ym, synniwch cyd tawo, Lloegr gychwyn, a fynn a fynno, Llwyr i dyd i fryd ar fro _Gadwallawn_ _Fab Cadfan_, _fab Iago_, Llary yspar ys penyd iblo, Llwrw espyd yspeid anolo, Llew prydfawr llyw _Prydain_ ai chlo, _Llewelyn_ lliaws ei fran fro, Llary deyrn cedyrn, cad wosgo; ynghur Ys fy nghar a orffo.

Gorfydd Udd dremrudd, dramor lliant, Ym _Mon Mam Gymru_ bedryddant, Gorllwybr llu llenwis ewyngant, Gwarthaf bryn a phenrhyn a phant, Gorllanw gwaed am draed a ymdrychant, Amdrychion pan ymdrecha.s.sant, Cad y _Coed Anau_, Cadr anant borthi, Burthiaist wyr yn nifant.

Ail gad trom i tremynasant, Udd addien uch _Dygen Ddyfnant_, Eil miloedd mal gwyr dybuant, Eil yrth gyrth in gwrthfynna.s.sant, Eil agwrdd ymwrdd am hardd amgant bre _Bron yr Erw_ i galwant, Cynwan llu fal llew yth welsant, Cadr eryr ith wyr yn warant, Can hynny cynhennu ni wnant, Can wyllon _Celyddon_ cerddant, Dugost y _Wyddgrug_, a dygant i dreis Adryssedd cyfnofant, A _Rhuddlan_ yn rhuddliw amgant, _Rhun_ can clawdd adrawdd edrywant A _Dinbych_ wrthrych gorthorrant ar fil, Ar _Foelas_ a _Gronant_ A _chaer yn Arfon_, a charant yngnif, Yngnaws coll am peiriant, A _Dinas Emreis_ a ymrygant, Amrygyr ni wneir na wnant Neur orfydd dy orofyn nad ant Ith erbyn ith erbarch feddiant Neu'r orfuwyd yn orenw Morgant Ar filwyr _Prydain_ pedryddant Dy gynnygn ni gennyw cwddant, Ni gaiff hoen na hun ar amrant, Mad ymddugost waed, mad yth want, Arall yn arfoll ysgarant, A chleddyf, a chlodfawr yth wnant, Ag ysgwyd ar ysgwydd anchwant, Mad tywyssaisd dy lu, Lloegr irdant, Ar derfyn _Mechain_ a _Mochnant_, Mad yth ymddug dy fam, wyd doeth, Wyd dinam, wyd didawl o bob chwant, O borffor o bryffwn fliant, O bali ag aur ag ariant, O emys gochwys gochanant dy feirdd, Yn fyrddoedd i caffant.

Minnau om rhadau rhymfuant, Yn rhuddaur yn rhwydd ardduniant, O bob rhif im Rhwyf im doniant, O bob rhyw im rhodded yn gant Cyd archwyf im llyw y lloergant yn rhodd, Ef am rhydd yn geugant.

_Lliwelydd_ lledawdd dy foliant, _Llewelyn_, a _Llywarch_ rwy cant.

Munerawd ym marw fy mwyniant fal yn byw _Lleissiawn_ ryw _Run_ blant.

Nyd gormod fy ngair it gormant!

Teyrn wyd tebyg _Eliphant_, Can orfod pob rhod yn rhamant, Can folawd a thafawd a thant.

Cein deyrn, cyn bych yngreifiant, Can difwyn o ysgwn esgarant, Can Dduw ren yn ran westifiant Can ddiwedd pob buchedd, bych sant.

VIII. PUM AWDL

_I Lewelyn fab Gruffydd_. _Llygad Gwr ai cant_.

I.

Cyfarchaf i Dduw, ddawn orfoledd, Cynnechreu doniau, dinam fawredd, Cynnyddu, canu, can nid rhyfedd dreth, O draethawd gyfannedd, I foli fy Rhi rhwyf _Arllechwedd_, Rhuddfaawg freiniawg o frenhinedd, Rhyfyg udd _Caissar_, treis far trossedd, Rhuthrlym, grym _Gruffydd_ etifedd, Rhwysg frwysg, freisg, o freint a dewredd, Rhudd barau o beri cochwedd, Rhyw iddaw diriaw eraill diredd, Rhwydd galon, golofn teyrnedd.

Nid wyf wr gwaglaw wrth y gogledd, O Arglwydd gwladlwydd, glod edryssedd, Nid newidiaf naf un awrwedd a neb, Anebrwydd dangnefedd.

Llyw y sy ym ys aml anrhydedd, Lloegr ddifa o ddifefl fonedd, _Llewelyn_ gelyn, galon dachwedd, Llary wledig gwynfydig _Gwynedd_, Llofrudd brwydr, _Brydein_ gywryssedd, Llawhir falch, gwreiddfalch gorsedd, Llary, hylwydd, hael Arglwydd eurgledd, Llew _Cemmais_, llym dreis drachywedd, Lle bo cad fragad, friwgoch ryssedd, Llwyr orborth hyborth heb gymwedd, Gnaws mawrdraws am ardal dyhedd, Gnawd iddaw dreiddiaw drwyddi berfedd, Am i wir bydd dir or diwedd, Amgylch _Dyganwy_ mwyfwy i medd, A chiliaw rhagddaw a chalanedd creu, Ag odduch gwadneu gwaed ar ddarwedd.

Dreig _Arfon_ arfod wythlonedd Dragon diheufeirch heirddfeirch harddedd, Ni chaiff _Sais_ i drais y droedfedd oi fro, Nid oes o _Gymro_ i Gymrodedd.

II.

Cymmrodedd fy llyw lluoedd beri, Nid oes rwyf eirioes, aer dyfysgu, _Cymro_ yw haelryw o hil _Beli_ hir, Yn herwydd i brofi.

Eurfudd ni oludd, olud roddi, Aerfleidd arwreidd o _Eryri_, Eryr ar geinwyr gamwri dinam, Neud einym i foli.

Eurgorf torf tyroedd olosci, Argae gryd, Greidiawl wrhydri, Arwr bar, taerfar, yn torri cadau, Cadarnfrwydr ystofi.

Aer dalmithyr, hylithr haelioni, Arf lluoedd eurwisgoedd wisgi Arwymp Ner, hyder, hyd _Teifi_ feddiant, Ni faidd neb i gospi.

_Llewelyn Lloegrwys_ feistroli, Llyw breiniawl, brenhinedd teithi, Llary deyrn cedyrn, yn cadw gwesti cyrdd Cerddorion gyflochi.

Coelfein brein _Bryneich_ gyfogi, Celennig branes, berthles borthi, Ciliaw ni orug er caledi gawr, Gwr eofn ynghyni.

Parawd fydd meddiant medd Beirdd im Rhi, Pob cymman darogan derfi, O _Bwlffordd_ osgordd ysgwyd gochi hydr, Hyd eithaf _Cydweli_.

Can gaffael yn dda dra heb drengi, Gan fab Duw didwyll gymmodi, Ys bo i ddiwedd ddawn berchi ar nef, Ar neilliaw Crist Geli.

III.

Llyw y sy'n synhwyrfawr riydd, Lliwgoch i lafnawr, aesawr uswydd, Lliw deifniawg, llidiawg, lledled fydd ei blas, Llwyr waeth yw ei gas noi garennydd.

_Llewelyn_ gelyn, galofydd, Llwyrgyrch darogan cymman celfydd, Ni thyccia rhybudd hael rebydd rhagddaw, Llaw drallaw drin wychydd.

Y gwr ai rhoddes yn rhwyf dedwydd, Ar _Wynedd_ arwynawl drefydd, Ai cadarnhao, ced hylwydd yn hir, I amddeffyn tir rhag torf oswydd.

Nid aniw, nid anhoff gynnydd, Neud enwawg farchawg, feirch gorewydd, I fod yn hynod hynefydd _Gymro_, A'r _Gymry_ a'u helfydd.

Ef difeiaf Naf rhy wnaeth Dofydd, Yn y byd o bedwar defnydd, Ef goreu riau reg ofydd a wnn, Eryr _Snawtwn_ aer gyfludwydd.

Cad a wnaeth, cadarn ymgerydd, Am gyfoeth, am Gefn Gelorwydd, Ni bu gad, hwyliad hefelydd gyfred, Er pan fu weithred waith _Arderydd_.

Breisclew _Mon_, mwynfawr _Wyndodydd_, Bryn _Derwyn_ clo byddin clodrydd, Ni bu edifar y dydd i cyrchawdd, Cyrch ehofn essillydd.

Gwelais wawr ar wyr lluosydd, Fal gwr yn gwrthladd cywilydd, A welei _Lewelyn_, lawenydd dragon, Ynghymysc _Arfon_ ac _Eiddionydd_, Nid oedd hawdd llew aerflawdd lluydd, I dreissiaw gar Drws Daufynydd, Nis plyG.o.dd Mab Dyn bu doniawg ffydd, Nis plycco Mab Duw yn dragywydd.

IV.

Terfysc taerllew glew, glod ganhymdaith, Twrf torredwynt mawr uch mor diffaith, Taleithiawg deifniawg dyfniaith _Aberffraw_, Terwyn anrheithiaw, rhuthar onolaith.

Tylwyth, ffrwyth, ffraethlym eu mawrwaith, Teilwng blwng, blaengar fal G.o.ddaith, Taleithawg arfawg aerbeir _Dinefwr_, Teilu hysgwr, ysgwfl anrhaith.

Telediw gad gywiw gyfiaith, _Toledo_ balch a bylchlafn eurwaith, Taleithawg _Mathrafal_, maith yw dy derfyn, Arglwydd _Lewelyn_, lyw pedeiriaith, Sefis yn rhyfel, dymgel daith, Rhag estrawn genedl, gwyn anghyfiaith, Sefid Brenin nef, breiniawl gyfraith, Gan eurwawr aerbeir y teir taleith.

V.

Cyfarchaf i Dduw o ddechrau moliant, Mal i gallwyf orau, Clodfori o'r gwyr a geiriau I'm pen, y penaf a giglau, Cynnwrf tan, lluch faran llechau, Cyfnewid newydd las ferau, Cyfarf wyf a rhwyf, rhudd lafnau yngnif, Cyfoethawg gynnif cynflaen cadau.

_Llewelyn_ nid llesg ddefodau, Llwybr ehang, ehofn fydd mau, Llyw yw hyd _Gernyw_ aed garnedd i feirch, Lliaws ai cyfeirch, cyfaill nid gau, Llew _Gwynedd_ gwynfeith ardalau, Llywiawdr pobl, _Powys_ ar _Dehau_, Llwyrwys caer, yn aer, yn arfau, _Lloegr_ breiddiaw am brudd anrheithiau, Yn rhyfel, ffrwythlawn, dawn diammau, Yn lladd yn llosci yn torri tyrau, Yn _Rhos_ a _Phenfro_, yn rhysfaau _Ffrainc_, Llwyddedig i ainc yn lluyddau.

Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards Part 8

You're reading novel Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards Part 8 online at LightNovelFree.com. You can use the follow function to bookmark your favorite novel ( Only for registered users ). If you find any errors ( broken links, can't load photos, etc.. ), Please let us know so we can fix it as soon as possible. And when you start a conversation or debate about a certain topic with other people, please do not offend them just because you don't like their opinions.


Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards Part 8 summary

You're reading Some Specimens of the Poetry of the Ancient Welsh Bards Part 8. This novel has been translated by Updating. Author: Evan Evans already has 613 views.

It's great if you read and follow any novel on our website. We promise you that we'll bring you the latest, hottest novel everyday and FREE.

LightNovelFree.com is a most smartest website for reading novel online, it can automatic resize images to fit your pc screen, even on your mobile. Experience now by using your smartphone and access to LightNovelFree.com

RECENTLY UPDATED NOVEL